Mae’n bleser gennym gyhoeddi y dyfarnwyd grant gan Gyngor Prydeinig Cymru i Oriel Gelf Glynn Vivian ac Oriel Wyddoniaeth Bengalaru am Connections Through Culture: India – Wales.
Mae’r cydweithio hwn rhwng Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Oriel Wyddoniaeth Bengalaru, Cymdeithas Amgueddfeydd Mumbai (dan stiwardiaeth Pheroza Godrej) a’r hanesydd celf Zehra Jumabhoy yn archwilio celf a diwydiant yn India a Chymru.
Mae cysylltiadau diwydiannol rhwng India a Chymru yn ymestyn o’r oes Ymerodrol hyd heddiw. Gwnaeth y teulu Vivian eu harian drwy weithgynhyrchu copr a’i anfon mewn llongau ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig. Heddiw mae’r gwaith dur ym Mhort Talbot yn eiddo i deulu o India, y Tatas.
Bydd y prosiect hwn yn archwilio’r hanesion diwydiannol a’r pryderon cyfoes drwy ddigwyddiadau digidol rhyngddisgyblaethol; daw hyn ag artistiaid, curaduron, ysgrifenwyr, haneswyr celf, gwyddonwyr ac economegwyr o India a Chymru at ei gilydd.
Bydd y prosiect yn cynnwys pedwar darn comisiwn digidol gan artistiaid, ynghyd â sgyrsiau a thrafodaethau ar themâu bwyd, gwrthdystiad, tecstilau a phaentiadau hanesyddol.
Read about the other funded projects here: British Council Wales