Drwy gydol mis Awst a Medi, hoffem eich gwahodd i anfon cerdyn post at yr Oriel.
Gallwch arlunio, ysgrifennu cerdd, ysgrifennu cerdyn post, creu paentiad, creu collage neu gallwch gynnwys llun.
Hoffem i chi ganolbwyntio ar y dyfodol; er enghraifft, beth yw eich breuddwydion? Pa newidiadau ydych chi’n dychmygu bydd yn digwydd? Pa heriau byddwn ni’n eu hwynebu? Pa fyd gallwn ni ei greu gyda’n gilydd?
Nodwch ba ochr y cerdyn post yr hoffech i ni ei arddangos drwy nodi eich enw (neu eich llythrennau cyntaf) a ble rydych chi’n byw (neu gall hyn fod yn hollol ddienw).
Nid oes unrhyw derfyn oedran, mae’n agored i bawb, felly rhannwch hwn ym mhob man, hoffem dderbyn y cardiau post hyn o bob cwr o’n dinas a thu hwnt!
Caiff y casgliad o gardiau post eu harddangos yn yr Oriel pan fyddwn yn ailagor. Ar ôl iddynt gael eu harddangos byddwn yn eu cadw yng Nghasgliad yr Oriel i ddathlu eich gwaith celf ac i atgoffa cenedlaethau’r dyfodol o’r cyfnod penodol hwn.
Anfonwch eich Cerdyn Post i’r dyfodol i Oriel Gelf Glynn Vivian, Alexandra Road, Abertawe SA1 5DZ
Cardiau post – gall y rhain fod yn unrhyw fath o gerdyn post, un sydd gennych adref neu un rydych chi wedi’i greu eich hun ond dylent fod yr un maint â cherdyn post, maint A6 (148mm x 106mm). Gall cardiau post fod yn llorweddol neu’n fertigol. Un cynnig fesul person yn unig.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw ddydd Sul, 27 Medi 2020.