Mae deg o gelfweithiau o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian wedi’u dewis i gael eu harddangos yn 10 Downing Street, fel rhan o’r prosiect ‘Museums in Residence Number 10’, a drefnwyd gan Government Art Collection.
Bob blwyddyn, ers dau ddegawd, mae Government Art Collection wedi gweithio gyda chasgliad amgueddfa neu oriel i arddangos celfweithiau sy’n dathlu elfen unigryw o’u casgliad. Mae orielau a ddewiswyd yn flaenorol yn cynnwys Oriel Gelf ac Amgueddfa Herbert, Cofentri, yn 2021, Oriel Gelf The Whitworth, Manceinion, yn 2019 a The New Art Gallery, Walsall, yn 2018.
Mae’r deg o gelfweithiau a ddewiswyd o gasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn baentiadau gan artistiaid o Abertawe a De-orllewin Cymru, ac artistiaid a dreuliodd amser yn gweithio ym mro Gŵyr a’r ardal gyfagos
Dewisodd tîm yr oriel a thîm y Government Art Collection ddetholiad o weithiau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddwy thema mewn dwy ystafell.
Yn yr ystafell gyntaf, mae chewch o baentiadau o dirweddau yng Nghymru gydag amrywiaeth o olygfeydd dramatig o Abertawe a Gŵyr, gan gynnwys Cefn Bryn, Gŵyr gan Lucien Pissarro, Bae Oxwich gan William Grant Murray, a Tirwedd Felen 1 gan Glenys Cour.
Mae pedwar gwaith yn yr ail ystafell, y maent i gyd yn baentiadau o fenywod. Mae’r rhain yn cynnwys paentiadau gan artistiaid émigré – Casglwyr Cocos gan Ernest Neuschul a Mam a Phlentyn gan Josef Herman. Mae’r celfweithiau hefyd yn cynnwys paentiadau arwyddocaol gan artistiaid enwog o Gymru, Y Pianydd gan Ceri Richards a’r Lleian gan Gwen John.
Mae arddangosfa 10 Downing Street yn galluogi rhai o’r gweithiau gorau o’r casgliad i gael eu gweld y tu allan i Abertawe ac i gynulleidfaoedd newydd ddod ar eu traws dros y flwyddyn nesaf tan fis Hydref 2023, gan gynnwys y staff a llawer o ymwelwyr â’r adeilad cyhoeddus hwn.
Meddai David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, “Rwyf wrth fy modd y bydd y paentiadau bendigedig hyn o Gasgliad y Glynn Vivian yn Abertawe yn cael eu harddangos yn 10 Downing Street, ac y bydd llawer mwy o bobl eraill o bob cwr o’r byd yn cael y cyfle i’w gwerthfawrogi.”
“Mae Cymru’n ffodus iawn o gael tirweddau prydferth, a threftadaeth gyfoethog o artistiaid dawnus sydd wedi’u hysbrydoli gan ein cenedl a’i phobl. Dyma gyfle gwych i arddangos rhai o’r goreuon.
“Meddai’r Arglwydd Parkinson, Gweinidog y Celfyddydau, “Rwy’n falch iawn y dewiswyd gwaith o Oriel Gelf Glynn Vivian i’w arddangos yn 10 Downing Street dros y flwyddyn nesaf. Bydd y 10 darn dethol yn cael eu gweld a’u mwynhau gan y staff a’r ymwelwyr niferus o bedwar ban byd sy’n cerdded drwy’r adeilad, gan roi cipolwg iddynt ar dirwedd a phobl Abertawe a De-orllewin Cymru, a’r artistiaid a ysbrydolwyd ganddynt.”
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Elliot King, “Mae’n wych bod Abertawe a’r Glynn Vivian yn cael eu harddangos yn y ffordd hon.
“Mae Abertawe’n ddinas diwylliant ac mae’n bwysig bod ein dawn artistig a’n treftadaeth yn cael eu dangos i gynulleidfa mor eang ac amrywiol â phosib.”
Meddai Karen MacKinnon, Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, “Bu’n bleser gweithio gyda’r tîm yn Government Art Collection i ddewis y gweithiau hyn a fydd yn cael eu gweld gan lawer o wahanol bobl o’r DU a ledled y byd.
“Mae’r celfweithiau sy’n cael eu harddangos yn cynnwys artistiaid lleol gwych fel Ceri Richards, Josef Herman, Gwen John a Glenys Cour, a thrwy’r gweithiau hyn rydym yn dathlu tirweddau a phobl ryfeddol Cymru.”
Government Art Collection
Mae’r Government Art Collection, a sefydlwyd ym 1899, yn gasgliad cenedlaethol o gelf Brydeinig hanesyddol, modern a chyfoes sy’n cael ei arddangos yn adeiladau’r llywodraeth yn y DU a ledled y byd. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys 10 ac 11 Downing, adrannau’r llywodraeth a phreswylfeydd a swyddfeydd Llysgenhadon Prydain, Uchel Gomisiynwyr a Swyddfeydd Consyliaid mewn 129 o ddinasoedd ledled y byd.
Bydd y gweithiau’n cael eu gweld gan filoedd o ymwelwyr a byddant yn hyrwyddo celf o Brydain ac yn cyfrannu at ddiplomyddiaeth ddiwylliannol. Rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd o ehangu ymgysylltiad â gweithiau Government Art Collection gyda chynulleidfaoedd anllywodraethol drwy bartneriaethau a thrwy gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.