Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn lleoliad diwylliannol a reolir gan Gyngor Abertawe Rhoddwyd yr Oriel a’i Chasgliad i’r ddinas gan sefydlydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, ym 1911 ac mae’n parhau i fod yn ased hanfodol i Abertawe.
Mae ein partneriaid a’n noddwyr yn hanfodol ar gyfer llwyddiant parhaus yr Oriel ac rydym yn arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, a Llywodraeth Cymru am eu heiriolaeth parhaus.
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri a nifer eraill, sydd wedi ein noddi a’n cefnogi yn ystod gwaith ailddatblygu diweddar yr Oriel, a wnaed rhwng 2012 a 2016.
Hoffem ddiolch i Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian, sydd wedi ein helpu gyda’n gwaith mewn sawl ffordd, gan gynnwys cefnogi ein rhaglenni dysgu ac addysgu, a thrwy gaffaeliadau a gwobrau artistiaid.
Mae ein partneriaethau a’n rhwydweithiau â sefydliadau celf yn ymestyn ledled y DU a’r tu hwnt.
Mae’r Glynn Vivian yn aelod o rwydwaith Plus Tate, un o 35 o orielau yn y DU y caiff ei gwaith ei gydnabod am ei arloesedd a’i berthnasedd.
O 2020-23, byddwn yn cyflwyno prosiectau cydweithredol gyda sefydliadau megis yr Amgueddfa Brydeinig a The British Art Network, a gefnogir gan Tate a Chanolfan Astudiaethau Celf Brydeinig Paul Mellon, wrth i ni barhau i ddatblygu ein gwaith gyda sefydliadau megis y Cyngor Prydeinig a rhwydwaith Plus Tate.
Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’n prifysgolion lleol yn Abertawe; gydag Ysgol Gelf Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn ogystal â chydweithio â Phrifysgol Abertawe ar ei chynlluniau partneriaeth creadigol, gan ddewis a chyflwyno gwaith artistiaid yn ogystal â phrosiectau ymchwil.