Pen Menyw, Miss Jane Tupper-Carey, 1924
Roedd William Patrick Roberts RA (1895–1980) yn artist Prydeinig. Yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Roberts yn arloeswr ymhlith artistiaid Seisnig, yn ei ddefnydd o ddelweddau haniaethol. Yn 1918, daeth yn artist rhyfel swyddogol.
Roedd Roberts bob amser yn wynebu trafferthion ariannol felly er mwyn ategu ei incwm, derbyniodd gomisiynau amrywiol ar gyfer portreadau, ac mae’r paentiad hwn o 1924 o Miss Jane Tupper-Carey’n un o’r rhain. Mae’r gwaith hwn, a baentiwyd gan ddefnyddio arlliwiau cynnil, yn arddangosiad meistrolgar o ataliaeth wrth i’r artist ddal urddas chwaethus y botanegydd ifanc, a briododd y mathemategydd adnabyddus o Gaergrawnt, Albert Ingham, ym 1932.
Dr Barry Plummer, Hanesydd Celf, Abertawe.