Adeiladau Adfeiliedig, Napoli
2003 oedd deucanmlwyddiant marwolaeth yr arlunydd, Thomas Jones o Bencerrig (1742 – 1803).
Cafodd yr achlysur ei ddathlu gydag arddangosfa bwysig yn edrych yn ôl ar ei waith yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru (wedyn yn Oriel Whitworth, Manceinion a’r Oriel Genedlaethol, Llundain).
Craidd yr arddangosfa oedd llond dwrn o frasluniau olew ar bapur a gwblhawyd yn Napoli tua 1782 (ac mae hwn yn un o’r rheiny) a ddisgrifiwyd gan yr Oriel Genedlaethol fel “…campweithiau arsylwi a chrynoder…”
Mae’r gwaith hwn yn dangos adfeilion adeiladau lleiandy, yn ôl y gred, ar lethr bryn yn Capo di Monte, Napoli, gyda’r waliau’n frith o dyllau sgaffald .
Roedd Thomas Jones yn ddisgybl i’r tirluniwr o Gymru, Richard Wilson (1713/4-1782). Yn ystod ei fywyd, nid oedd y cyhoedd bob amser yn gwerthfawrogi ei waith, ond erbyn heddiw fe’i cydnabyddir yn “…un o grŵp dethol o artistiaid Cymreig y 18fed ganrif sydd o bwys rhyngwladol.”