Marriage at Cana, Bride & Bridegroom, 1953
Mae Priodas yn Cana (1953) yn symbolaidd o fendith Duw ar sefydliad priodas.
Lluniwyd hwn yn wreiddiol gan Stanley Spencer (1891 – 1959) yn y 1930au fel rhan o gyfres arfaethedig o 50 delwedd sanctaidd a halogedig a oedd yn dangos cylchrediad bywyd dynol – cynllun ‘Church House’.
Mae Spencer wedi personoli’r olygfa trwy fodelu’r briodferch a’r priodfab ar ei wraig gyntaf, yr artist Hilda Carline, ac ef ei hun. Buont yn priodi ym 1925 ond cawsant ysgariad ym 1937. Nid oedd ail briodas Spencer (â Patricia Preece) yn llwyddiannus na’i ymgais i ailgymodi â Hilda chwaith. Fodd bynnag, parhâi i ddathlu ar y cynfas yr hyn a oedd y tu hwnt i’w afael mewn bywyd.
Meddai, “…achosir fy awydd i baentio lluniau gan fy methiant â bodloni fy nyheadau mewn bywyd ei hun.”
Mae safbwynt uchel Spencer yma’n ychwanegu at agwedd drwsgl y symudiad wrth i’r pâr pypedaidd baratoi i eistedd wrth y bwrdd lle mae teisen briodas haenog.