Panel yr Ymerodraeth Brydeinig
(Rhif 13 / Dwyrain Affrica)
Mae hwn yn un mewn cyfres o 17 panel o baentiadau sy’n hongian ar waliau awditoriwm Neuadd Brangwyn yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.
Crëwyd Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Syr Frank Brangwyn (1867-1956) mewn ymateb i gomisiwn (1924) gan Dŷ’r Arglwyddi er mwyn coffáu meirwon y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Oriel Frenhinol ym Mhalas San Steffan.
Fodd bynnag, roedd y canlyniad a oedd yn gyforiog o lystyfiant, anifeiliaid a phobl wedi’u llunio mewn lliwiau moethus mewn ymgais i gyfleu helaethrwydd yr ymerodraeth yr oedd y meirwon wedi ymdrechu i’w hamddiffyn, yn nodwedd goffa rhy afieithus i’r Arglwyddi.
Yn lle hynny gosodwyd y paneli, a gymerodd 7 mlynedd i’w cwblhau ac a ystyriwyd gan yr artist yn gampwaith ei yrfa, yn Neuadd Brangwyn ym 1934. Daeth Syr Frank Brangwyn, a oedd o dras Eingl-Gymreig, ar ymweliad preifat â Neuadd Brangwyn i weld y paneli’n cael eu gosod.