Y Drych, 1994
Mae modd adnabod paentiad gan Shani Rhys James ar unwaith. Mae ei gwaith yn bwerus ac yn llawn emosiwn, ac fel y mae’r artist ei hun wedi dweud, mae modd ‘darllen ei phaentiadau am eu cyd-destun, eu lliw a’u helfennau haniaethol’.
Mae ei chelf yn seiliedig ar yr amgylchedd uniongyrchol: hunanbortreadau, blodau, bywyd yn ei stiwdio. Nid yw’n arlunydd portreadau yng ngwir ystyr y gair ond yn artist sy’n osgoi’r grefft draddodiadol o’r genre hwnnw ac yn dewis ffurf o fynegiant sy’n gignoeth, yn ddiysgog ac yn onest.
Fel y dywedodd yr artist mynegiannol Almaenig, Paula Modersohn-Becker, un tro: ‘Y tanbeidrwydd a ddefnyddir gan berson i gydio yn y gwrthrych sy’n creu harddwch mewn celf’ .
Dr Barry Plummer, Hanesydd Celf, Abertawe.