Abertawe
Roedd Austin yn frodor o Lerpwl. Yn wreiddiol roedd yn gweithio fel clerc i fancer, ond yn y pen draw gadawodd ei swydd dda i ymroi ei hun yn llwyr i waith celf. Ym 1827 fe’i etholwyd yn gyfaill i’r Gymdeithas Arlunwyr Dyfrlliw.
Roedd yn paentio tirliniau ac, o bryd i’w gilydd, ffigurau gwledig: ond roedd ei waith gorau’n cynnwys golygfeydd arfordirol a oedd yn cyflwyno cychod a ffigurau. Mae enghraifft o’i waith, sef Shakespeare’s Cliff, Dover, with Luggers on the Beach, yn Amgueddfa De Kensington. Bu farw yn Lerpwl ym mis Gorffennaf 1834.
Yn y paentiad dyfrlliw hwn, mae Austin yn darlunio dociau Abertawe ac afon Tawe ynghyd â llongau ar y traeth a chwch rhwyfo mawr yn y blaendir. Gallwch hefyd weld Castell Abertawe, gyda Townhill yn amlwg yn y cefndir.