Gwobr Wakelin 2018:
Untitled (Welsh Moor), 2015
Bob blwyddyn, rhoddir ein Gwobr Wakelin i artist o Gymru y prynir ei waith ar gyfer ein casgliad parhaol.
Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian sy’n gyfrifol am weinyddu’r wobr hon ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin.
Detholydd eleni yw’r cerflunydd, Laura Ford, sydd wedi dewis gwaith Richard Billingham. Mae’n dweud bod gwaith Richard ‘yn emosiynol ysgogol ac roedd y delweddau wedi creu argraff arnaf i ac maent yn parhau i lywio fy marn am berthnasoedd dynol ag anifeiliaid. Felly, pan ofynnwyd i mi ddewis darn o waith celf ar gyfer Gwobr Wakelin, roedd y gwaith yma ymysg y detholiad i’w ystyried a dyma oedd fy newis cyntaf’.
Mae Richard Billingham yn byw yn Abertawe. Ef oedd derbynnydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse ym 1997 ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Turner yn 2001. Cedwir ei waith mewn sawl casgliad cyhoeddus rhyngwladol megis Amgueddfa Celf Gyfoes San Francisco, yr Amgueddfa Fetropolitan, Efrog Newydd, y Tate a’r V&A, Llundain. Mae ganddo gadair athro ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw ac ym Mhrifysgol Middlesex.