Tirlun Coed Bagley, 1942-3
Ganed Paul Nash (1889-1946) yn Llundain, yr hynaf o dri o blant (roedd ei frawd, John, hefyd yn artist).
Bu Nash yn astudio yn y Slade ar yr un pryd â Gertler a Spencer. Recriwtiwyd Nash fel artist rhyfel (ym 1917 ac eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, arbrofai â chelf swrrealaidd a haniaethol.
Dyma un mewn cyfres o dirluniau a baentiwyd rhwng 1942 a 1943. Mae’r olygfa hon o ardd ‘Sandlands’, tŷ ar Boar’s Hill ger Rhydychen sy’n edrych dros Goed Bagley i Dwyni Berkshire ar y gorwel ac yn cynnwys y Wittenham Clumps, wedi’u trochi yma yn yr heulwen.
Mae’r Clumps (Castle Hill a Round Hill) ymhlith yr aneddiadau Oes Haearn hynaf ym Mhrydain a chredir y sonnir amdanynt yn y Mabinogi. Daethant yn un o symbolau personol pwerus yr artist a ddisgrifiodd ei dirluniau o’r cyfnod hwn fel bod yn ‘drosgynnol’.
Roedd y gwaith hwn yn rhan o’r arddangosfa Nash, Modern Artist, Ancient Landscape, a gynhaliwyd yn Tate Liverpool yn 2004.