Portread o Fam yr Artist, 1913
Mae portread chwyldroadol Gertler o’i fam, Golda, yn cael effaith sy’n llawer mwy sylweddol na’i faint bach. Mae symleiddio’r ffigwr a’r lliwiau beiddgar yn adlewyrchu ei edmygedd o’r Ôl-argraffiadwyr, yn enwedig Van Gogh, ond hefyd ei daith bersonol ac artistig ei hun.
Ac yntau wedi’i eni i rieni Iddewig, dosbarth canol a oedd wedi ymfudo i’r wlad hon, ond wedi’i ddyrchafu gan ei ddoniau i gylch cymdeithasol gwahanol, mae Gertler yn mynegi deuoliaeth ddofn ei deimladau am ddosbarth a pherthyn yn y gwaith hwn sy’n trawsnewid Golda i werinwr â dwylo gweithiol anferth. Roedd yn disgrifio’r portread yn ‘farbaraidd ac yn symbolaidd’, gan esbonio mai’r bwriad oedd dangos ‘dioddefaint a bywyd sydd wedi profi caledi’.
Sarah MacDougall, Uwch-guradur/Pennaeth Casgliadau, Oriel ac Amgueddfa Ben Uri.