Miners, 1951
Lansiwyd Sefydliad Celf Josef Herman yn Ystradgynlais ym mis Mai 2004 i ennyn diddordeb ym mywyd a gwaith yr artist a hybu mentrau addysg celfyddydau yn yr ardal.
Jo Bach oedd llysenw hoffus Herman (1911-2000) gan drigolion y cyn-gymuned pwll glo hon ym mhen uchaf Cwm Tawe lle roedd yn byw am 11 o flynyddoedd o 1944, gan adael (am Sbaen, yna Llundain) dim ond pan oedd lleithder hinsawdd Cymru wedi dechrau effeithio ar ei iechyd.
Comisiynwyd y gwaith hwn ar 6 phanel ym 1951 ar gyfer Pafiliwn Mwynau’r Ynys yng Ngŵyl Prydain. Dengys 6 glöwr yn gorffwys uwch y ddaear ar ôl eu shifft.
Esbonia John Upton, cyn Swyddog Addysg Glynn Vivian
“Er eu bod yn aml yn dywyll, mae gan ei baentiadau wrid cynnes wedi’i gyflawni trwy danbaentio lliwiau golau, llachar ac yn yna datblygu’r rhain gyda lliwiau mwy tywyll fel bod einioes y darlun yn ymledu oddi mewn.” Dywedodd yr artist am y gwaith hwn, “Rwy’n credu mai dyma un o’m lluniau allweddol a’r pwysicaf a wneuthum yng Nghymru.”