Portread yng Ngolau Cannwyll: Brenda Chamberlain, 1939
Priododd John Petts (1914-1991) yr artist a’r awdures, Brenda Chamberlain, a anwyd ym Mangor, ym 1935, ond cawsant ysgariad ym 1944. Yn ystod eu hamser gyda’i gilydd, buont yn byw mewn bwthyn yn Llanllechid gan reoli Gwasg Caseg o’u cartref. Ym 1939, cynhyrchodd Petts y paentiad hwn o Chamberlain sy’n bortread caredig o’i wraig ifanc sydd, oherwydd ei ddefnydd o chiaroscuro, yn adleisio celf Caravaggio.
Ar ôl i’w phriodas chwalu, symudodd Chamberlain i Ynys Enlli lle bu’n byw ac yn gweithio o 1947 i 1962. Ym 1961, aeth i fyw ar ynys Hydra yng ngwlad Groeg, ond dychwelodd i Gymru ym 1967. Bu farw ym 1971, yn 59 oed.
Yr Athro M. Wynn Thomas, CREW, Prifysgol Abertawe.