Hafod Copper Works River Tawy, c.1840s
Mae’r gwaith olew ar gynfas hwn, a baentiwyd gan James Harris yr hynaf (1810-1887), yn dangos rhan o afon Tawe yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a effeithiodd yn sylweddol ar amgylchedd Cwm Tawe Isaf. Yn y cefndir, ac wedi’i orchuddio mewn mwg, gallwch weld Gwaith Copr yr Hafod a sefydlwyd gan John Vivian, y meistr copr cyntaf o Gernyw i ymgartrefu yn y cwm (1808-9). Roedd y gwaith mwyndoddi copr yma ar agor am 115 o flynyddoedd, tan 1924. Yn y blaendir, gallwch weld dynion yn ymgymryd â’u gwaith ar y tir ac yn y dŵr, a dyn mewn ffrog-côt a het uchel sy’n pwyso yn erbyn un o’r cychod rhwyfo sydd wedi’i osod ar y glannau yn arsylwi arnynt.
Yn llyfr Stephen Hughes, ‘Copperopolis’, defnyddid y dyfyniad canlynol i gyd-fynd â’r paentiad hwn: ‘Painting of Smith’s Canal Tipping Staithes [OED: depo glo ar y glannau ar gyfer llwytho llongau] on the east bank of the River Tawe at Foxhole’.
Roedd Foxhole yn lleoliad poblogaidd i weithwyr, a gallwch weld y rhesi o dai deulawr ar waelod Mynydd Cilfái. Roedd camlas John Smith (1784) yn gamlas fer a phreifat a ddefnyddid i gludo glo a dŵr i waith copr y Garreg Wen, y gwaith mwyndoddi copr cyntaf i gael ei adeiladu ar ochr ddwyreiniol yr afon.