Ar y Traeth, Bournemouth
Mae menyw ifanc (y credir mai May Hughes ydyw) mewn dillad du cynnes yn eistedd ar ddarn unig o draeth gan ddarllen.
Yn ddyddiedig Mawrth 1882, mae’r paentiad olew ar gynfas hwn gan Henry Scott Tuke (1858 – 1929) yn cyfuno’r holl elfennau hynny a ddaeth â’r artist i amlygrwydd fel paentiwr ffigyrau a golygfeydd morol ‘awyr agored’. Yn ddiweddarach, cafodd ei enw ei gysylltu â’i gyfraniad at hanes dadleuol y ffigwr noeth yng nghelf y Fictoriaid, yn arbennig y dyn ifanc noeth, a oedd yn gwbl groes i’r darn hwn.
Cafodd Tuke ei dderbyn gan y Slade yn 16 oed, gan astudio’n ddiweddarach yn Ffrainc ac yn yr Eidal. Roedd y cyfnod olaf hwn yn gyfrifol am ei ddiddordeb mawr mewn lliw, golau a’r ffurf ddynol. Ond efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei gysylltiad byr ag Ysgol Newlyn.