Y Lleian, tua. 1910au
Wedi iddi gael ei gwrthod gan ei chariad, y cerflunydd enwog, Rodin, trodd Gwen John at grefydd ac fe’i derbyniwyd i’r ffydd Gatholig ym 1913. Daeth i gysylltiad â’r lleiandy yn Meudon ger Paris, ac yn y flwyddyn honno, fe’i comisiynwyd gan y lleianod i baentio portread o’i sylfaenydd o’r 17eg ganrif, Mere Marie Poussepin. Gwnaeth John sawl fersiwn o’r portread hwn, yn seiliedig ar ddelwedd ar gerdyn gweddi. Paentiodd bortreadau hefyd o sawl lleian, gan gynnwys yr un yma o fenyw ifanc anhysbys, yn yr un ystum.
Cynhyrchodd John nifer o bortreadau ac ym mhob un ohonynt, symudodd o’r ffordd ystrydebol o ddarlunio duwioldeb, ac yn lle, anelodd at bortreadu hanfod y person a oedd yn cael ei ddarlunio, ac wrth wneud hynny, mae Gwen John, gyda’i dewis llai o arlliwiau, yn adlewyrchu nodweddion eu byd ysbrydol mewnol, distaw.
Yr Athro Sharon Morris, Ysgol Gelf Gain Slade, Prifysgol Dinas Llundain.
Gweler gweithiau eraill Gwen John yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Menyw yn gwisgo Mwclis Cwrel, a Merch Fach yn Gwisgo Het Wellt.