Merch Fach yn Gwisgo Het Wellt
Plant, lleianod, golygfeydd mewnol tai, cathod a menywod unig yw prif destunau’r artist Gwen Jones (1876-1939) a aned yng Nghymru.
Ar ôl tair blynedd o astudio yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain, ac yn rhannol i ddianc rhag tad gormesol, ymsefydlodd Gwen yn Ffrainc.
Ym 1910 symudodd i Meudon, ar gyrion Paris, lle roedd cartref plant amddifad a oedd dan reolaeth lleiandy gerllaw yn rhoi llawer o gyfleoedd iddi arlunio a phaentio. Mae Sue Roe, cofiannydd Gwen, yn disgrifio sut “…byddai’r plant yn cyrraedd gyda’r Chwiorydd o’r lleiandy ac yn eistedd tua blaen yr eglwys yn eu pinafforau a’u hetiau, ac yn cael eu gwylio gan Gwen a fyddai’n dod i eistedd yn ei mantell ddu gan eu harlunio o’r cefn.” (Gwen John: A Life, t.129)
Ym 1918, cafodd Gwen ei gwahodd gan ffrindiau a oedd yn poeni ei bod yn esgeuluso ei hiechyd i Pléneuf (Llydaweg: Pleneg) ar arfordir gogleddol Llydaw lle “gwnaeth Gwen lawer o arluniau o blant Llydewig, yn drwsiadus yn eu gwisgoedd, eu rhubanau a’u hetiau.”
Ewch i weld weithiau eraill Gwen John yng nghasgliad parhaol Oriel Glynn Vivian, sef Menyw yn Gwisgo Mwclis Cwrel ac Y Lleian.