Menyw yn Gwisgo Mwclis Cwrel,
diwedd y 1910au dechrau’r 1920au
Mae’n bosib y gellid enwi Menyw yn Gwisgo Mwclis Cwrel hefyd yn Menyw yn Gwisgo Clustdlws Perl, yn debyg i waith Vermeer: tôn uchel y clustdlws yn adlewyrchu’r golau a ddelir yn y llygaid. Mae’r mynegiant yn y llygaid yn datgelu ansawdd synfyfyriol recueilli a oedd wrth fodd Gwen John: ‘Hwyrach na fydd gennyf ddim byd byth i’w fynegi, ac eithrio’r awydd hwn am fywyd mwy mewnol’. Wedi’i baentio yn ei stiwdio ym Meudon, mae ystod y tonau fflat a’i defnydd o gynfas noeth yn dangos ei hedmygedd o Cézanne a’i thaith tuag at foderniaeth: o Ddinbych y Pysgod i Lundain, yna i Baris, cadarnhawyd uchelgais John pan gafodd ei dewis i arddangos yn Sioe Armory, Efrog Newydd, ym 1913.
Yr Athro Sharon Morris, Ysgol Gelf Gain Slade, Prifysgol Dinas Llundain.
Gweler gweithiau eraill Gwen John yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Y Lleian a Merch Fach yn Gwisgo Het Wellt.