La Folie
Mae menyw ifanc mewn dillad cyfoethog yn eistedd dan wylo.
Mae’n magu marotte neu degan ffŵl brenin (arwyddnod ffŵl y llys canoloesol a oedd yn debyg i deyrnwialen), yn nodwedd symbolaidd efallai, gyda dimensiwn ychwanegol o ganlyniad i’r teitl sy’n golygu ‘gwallgofrwydd’.
Dengys sganiau pelydr X o’r paentiad fod yr artist wedi paentio’r fenyw’n wreiddiol gyda baban yn ei breichiau (sylwer ar y crud yn y gornel dde uchaf) – a oedd y plentyn wedi marw neu ar fin marw? Mae gorbaentio’n gyflym wedi troi cyfansoddiad teimladwy’n waith sy’n llawer mwy dirgel.
Cafodd y paentiad hwn gan Gustave Doré (1832-1883) ei brynu gan Richard Glynn Vivian yn ail werthiant gwaith o stiwdio’r artist (14 – 15 Ebrill, 1885) yn Hôtel Drouot, Paris. Roedd Glynn Vivian a Doré wedi bod yn ffrindiau am nifer o flynyddoedd cyn marwolaeth cynamserol yr artist yn 51 oed. Byddent yn mynychu soirées ffasiynol ym mhrifddinas Ffrainc, lle roedd galw mawr am sgiliau artistig Doré.