Y Wraig Gocos, 1939
Mae Y Fenyw Gocos yn un o ddelweddau enwocaf a mwyaf eiconig Walters. Wedi’i baentio ym 1939, mae’n darlunio Sarah Goss o Langyfelach wedi’i gwisgo fel menyw gocos leol. Nid menyw gocos oedd Sarah Goss mewn gwirionedd – roedd hi’n gyfaill agos i’r teulu Walters. Benthycodd Walters wisg menyw gocos a pherswadiodd Sarah i sefyll ar ei gyfer. Mae’r portread yn waith sy’n tywynnu, ac yn gyfoeth o liw. Ynddo llwyddodd Walters i ddefnyddio ei waith brwsh llorweddol dadleuol a thechneg golwg dwbl i bortreadu menyw gynnes, llawn cymeriad.
Dr Barry Plummer, Hanesydd Celf, Abertawe.