Carmarthen-Leeds Return, 2000
Cyrhaeddodd gwaith yr artist cysyniadol Craig Wood (g.1960) Abertawe ar hyd taith artistig a ddechreuodd gyda’r arddangosfa ‘Freeze’ o raddedigion Goldsmiths ym 1988.
Yn dilyn arddangosfeydd unigol ar draws Ewrop, creodd Wood y bluen hon, wedi’i phaentio â llun o docyn trên, ar gyfer Locws International 2000, y digwyddiad celf sy’n benodol i leoliad a gynhelir ar draws dinas Abertawe.
Ysbrydoliaeth Tocyn Dychwelyd Carmarthen-Leeds oedd y plu a fyddai’n cael eu paentio gan longwyr yr Horn fel cofroddion i’w teuluoedd yn ystod mordeithiau hirfaith. Ar ôl gweld Tocyn Dychwelyd Caerfyrddin-Leeds wedi’i arddangos wrth ochr y plu o’r 19eg ganrif, dywedodd Wood am y gwaith,
“Roeddwn yn gallu cydymdeimlo’n gryf â’r criw ac roedd y syniad o’r dynion hyn yn byw’n unig ar y môr ymhell o bobl eraill yn cyffwrdd â mi…Rwyf wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn teithio…ymhell o’m teulu fy hun…”
Enillodd Tocyn Dychwelyd Caerfyrddin-Leeds Wobr Wakelin 2003 a ddyfernir gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian er cof am Richard a Rosemary Wakelin.