Bateaux en Hollande pres de Zaandam, 1871
Rhwng 1871 a 1886, ymwelodd Claude Monet (1840 – 1926) deirgwaith â’r Iseldiroedd.
Yn ystod yr ymweliad cyntaf (1871), treuliodd Monet nifer o fisoedd gyda’i wraig Camille a’u mab Jean yn Zaandam yng Ngogledd Holand. Am y cyfnod hwnnw, soniodd yn ddiweddarach am “…dai o bob lliw, cannoedd o felinau a chychod braf…”.
Mae sawl cynfas wedi goroesi o’r cyfnod hwn yn yr Iseldiroedd, gan gynnwys golygfa debyg iawn, Melinau yn y Westzijderveld ger Zaandam (1871) yn Amgueddfa Van Gogh, Amsterdam.
O ran arddull, mae Bateaux en Hollande… yn dyddio o gyfnod cyn gwaith mwy adnabyddus Monet a ddechreuodd yn enwog gydag Impression, Soleil Levant (Argraff, Codiad Haul) (1872) a ddangoswyd yn yr Arddangosfa Argraffiadaeth gyntaf ym Mharis ym 1874.
Cyflwynwyd Bateaux en Hollande i Oriel Gelf Glynn Vivian ym 1974 gan Drysorlys ei Mawrhydi yn lle dyletswyddau setliad.