La Cathédrale engloutie III
Trwy gydol ei yrfa artistig, roedd Ceri Richards (1903-1971), yn enedigol o Ddyfnant, yn cael ysbrydoliaeth o gerddoriaeth a barddoniaeth fel ei gilydd.
Rhwng 1957 a 1962, gweithiodd ar “gyfres o forluniau lled-haniaethol [mae hwn o 1960] sy’n ymateb uniongyrchol i ddarn poblogaidd iawn o gerddoriaeth” – preliwd piano Claude Debussy o 1910 – La Cathédrale Engloutie. Mae’r gerddoriaeth ei hun yn ymateb i chwedl am eglwys gadeiriol a suddwyd yn Ys oddi ar arfordir Llydaw lle, dywedir, y gellir clywed clychau o dan y môr yn ystod cyfnodau gosteg.
” ‘Cyfansoddwr gweledol yw Debussy,’ ysgrifennodd Richards, gan ddrysu’r synhwyrau’n fwriadol gyda’i ddewis o eiriau, ‘Mae ei seiniau a’i adeileddau’n deillio o ymwybyddiaeth weledol. Mae’n rhoi ymdeimlad i mi am seiniau natur, fel a wna Monet.”
(Mel Gooding, ‘Themes and Variations’, 2002, t.13/14.)
Gweler gweithiau eraill Ceri Richards yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Portread o Wraig yr Artist, Do Not Go Gentle Into That Good Night, Y Pianydd a Music of Colours – White Blossom.