Do Not Go Gentle Into That Good Night, 1965
Dehongliad Ceri Richards o gerdd angerddol Dylan Thomas
“Do not go gentle into that good night” yw erfyniad angerddol Dylan Thomas (1914-1953) gan ymbil ar ei dad i wneud ymdrech fawr i wrthsefyll marwolaeth. Dehonglir yr erfyniad emosiynol yma (lithograff, 1965) gan Ceri Richards (1903-1971).
Ganed y bardd a’r artist yn Abertawe, ond cyfarfuont unwaith yn unig a hynny yn y Tŷ Cwch yn Nhalacharn, ychydig cyn ymweliad olaf y bardd ag UDA ym 1953. Roedd Richards eisoes wedi cynhyrchu gwaith â themâu a oedd yn cyd-daro â barddoniaeth Thomas yn ei gyfres o baentiadau natur o ganol y 1940au.
“Yng nghanol y 1950au a rhwng canol a diwedd y 1960au, dychwelodd Richards drachefn i’r pwnc. Ymddengys fod ymwybyddiaeth o farwoldeb yn llenwi rhan helaeth o’i waith ffigurol yn y 1950au, gan arwain at ddau baentiad rhagorol ar thema cerdd Thomas am ei dad a oedd ar fin marw, Do not go gentle into that good night (1956), a phaentiad trasig a thywyll Disodli (1958), sydd bellach yn hongian yn Eglwys y Santes Fair yn Abertawe.”
(‘Themes and Variations’, 2002, t.9)
Gweler gweithiau eraill Ceri Richards yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Portread o Wraig yr Artist, La Cathédrale engloutie III, Y Pianydd a Music of Colours – White Blossom.