Y Pianydd, 1948
Mae’r gwaith hwn, o 1948, yn un o gyfres a baentiwyd yn ystod y ’40au a’r ’50au gan yr artist Ceri Richards (1903-1971), yn enedigol o Abertawe, a fyddai’n cyfuno cerddoriaeth a’r tu mewn i adeiladau, gan bortreadu ei ferched yn aml.
Ac yntau’n bianydd dawnus ei hun, roedd llawer o’i waith celf yn cael ei ysbrydoli gan gerddoriaeth ac, yn y paentiad hwn, mae dylanwad avant-garde Picasso a Matisse hefyd i’w weld.
Mae John Upton, Swyddog Addysg yn Oriel Gelf Glynn Vivian, sydd hefyd yn artist, yn esbonio, “Caiff y paent ei osod yn ddigymell heb unrhyw orweithio ac ail haenau. Caiff llawer o’r llinellau eu creu gan ‘sgraffito’, sef crafu trwy’r haen o baent i ddatgelu’r cefndir golau oddi dano.”
Mae cofiannydd Ceri Richards, Mel Gooding, yn disgrifio’r gyfres fel hyn: “Mae’r paentiadau hyn gyda’u lliwyddiaeth adleisiol, eu bywiogrwydd arabésg addurnol, eu toreth o bethau da, eu seiniau soniarus a’u peraroglau blodeuol, yn adlewyrchu’r cartrefgarwch ffrwynedig hwnnw. Maent yn dyner iawn o ran teimlad, ond ar wahân o ran naws.”
(‘Ceri Richards’, 2002, t.97)
Gweler gweithiau eraill Ceri Richards yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Do Not Go Gentle Into That Good Night, La Cathédrale engloutie III, Portread o Wraig yr Artist a Music of Colours – White Blossom.