
Olew ar gynfas
Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian
© Ystad Ceri Richards. Pob hawl, 2018
Portread o Wraig yr Artist, 1932
Ganed Ceri Richards (1903-1971) ym mhentref Dynfant i deulu dosbarth gweithiol, hynod ddiwylliedig. Ym 1924, ar ôl astudio’n flaenorol yng Ngholeg Celf Abertawe, aeth i’r Coleg Celf Brenhinol a dylanwadwyd ar eiwaith gan y mudiad modernaidd, yn enwedig Picasso a Kandinsky.
Ym 1929, priododd ei gyd-artist, Frances Clayton (1903-1985), ac ym 1932, creodd y portread hwn ohoni’n gwisgo het wellt fawr a phonsio coch. Mae’r portread, sydd wedi’i ddylanwadu’n drwm gan waith Picasso, yn dangos unigolyn â chwaeth artistig sy’n fenyw hyderus ac annibynnol.
Dr Barry Plummer, Hanesydd Celf, Abertawe.
Gweler gweithiau eraill Ceri Richards yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Do Not Go Gentle Into That Good Night, La Cathédrale engloutie III, Y Pianydd a Music of Colours – White Blossom.