Music of Colours – White Blossom
Am y paentiad hwn (1968), cafodd Ceri Richards (1903-1971) ysbrydoliaeth o’r gerdd o’r un enw a ysgrifennwyd gan ei ffrind, Vernon Watkins (1906-1967).
“I Richards, roedd celf ar ei holl ffurfiau – cerddoriaeth, barddoniaeth, arlunio, paentio a cherflunio – yn allwedd i ryfeddod, harddwch a thrais realiti.”
(Mel Gooding, Themes and Variations, 2002, t.11)
“Mae bywiogrwydd yr arlliwiau clir wedi’u gosod y naill yn erbyn y llall, a gwaith cryf y gyllell balet ym mhaent trwchus y blodau yn creu egni a geir yn symbolau bywyd, marwolaeth ac adfywio…Un o’r elfennau mwyaf teimladwy yn y gerdd gan Watkins, sydd hefyd wedi’i dal yn y paentiad, yw’r ymdeimlad o farwoldeb – yr ymdeimlad o gysgod yng nghanol yr haf, a gynrychiolir yma gan yr alarch ddu.” (John Upton, Swyddog Addysg, OGGV.) Wrth i’r alarch farw o dan y goeden a’i chorff, yn ei thro, bwydo’r gwreiddiau, mae’r goeden yn arddangos bywyd newydd trwy’i blodau gogoneddus – “Rhaid i wyn farw’n ddu, i gael ei eni’n wyn eto.”
Gweler gweithiau eraill Ceri Richards yng nghasgliad parhaol y Glynn Vivian’s, Portread o Wraig yr Artist, Do Not Go Gentle Into That Good Night, La Cathédrale engloutie III a Y Pianydd.