Portread Vernon Watkins, 1949
Roedd Alfred Janes a Vernon Watkins yn rhan o gylch nodedig o ffrindiau a fyddai’n adlunio map diwylliannol eu tref enedigol.
Yn y ddrama radio, Return Journey, a ddarlledwyd ar 15 Mehefin 1947, mae Dylan Thomas yn ailymweld ag Abertawe ei febyd, gan gynnwys caffi’r Kardomah (a ddinistriwyd yn y Blitz) lle byddai ef ac “egin feirdd, paentwyr a cherddorion” eraill yn cwrdd, yfed coffi a thrafod popeth dan haul.
Mae’r portread hwn, o 1949, yn dangos Vernon Watkins, un o’r ‘beirdd’, a baentiwyd gan Alfred Janes, un o’r ‘paentwyr’ o gof Thomas.
Disgrifiwyd y portread gan Mel Gooding, a oedd yn guradur arddangosfa Alfred Janes a gynhaliwyd yn y Glynn Vivian ym 1999, fel meddu ar “…ddwysedd creiddiol, fel petai ysbryd creadigol y testun wedi cael ei wneud yn weladwy fel rhyw fath o awra.”
(‘Alfred Janes 1911-1999’, t.5)
Defnyddiwyd y ddelwedd hon hefyd i gyd-fynd ag erthygl gan Vernon Watkins o’r enw The Need of the Artist a gyhoeddwyd yn The Listener ym 1962.