Uchafbwyntiau'r Casgliad
Mae casgliad Glynn Vivian yn cynnig amrywiaeth o waith celf weledol, o gymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian (1835-1910) i gelf gyfoes Gymreig yr 20fed Ganrif.
Ein Casgliad
Archwiliwch rai o uchafbwyntiau ein casgliad, gan gynnwys gwaith allweddol gan Gustave Doré, Barbara Hepworth, Gwen John, Claude Monet, Ceri Richards ac Evan Walters. Bellach, rydych yn gallu prynu argraffiadau o’r casgliad yn siop yr Oriel.
Caiff cannoedd o baentiadau olew o gasgliad yr oriel, gan gynnwys gwaith gan Monet, Pissarro ac Evan Walters eu dangos ar wefan Art UK.