Rhoddai Glynn y casgliad o baentiadau miniatur at ei gilydd o eitemau roedd wedi’u prynu ar ei deithiau helaeth i leoedd megis Paris, Fienna a München neu o dai arwerthu yn Llundain. O ganlyniad, dyma un o’r casgliadau mwyaf pwysig a’r ail fwyaf mewn sefydliad cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r casgliad unigryw hwn, sy’n cael ei arddangos am y tro cyntaf ers arddangosfa agoriadol yr Oriel ym 1911, wedi cael ei archwilio’n ofalus ac mae rhai o’r miniaturau wedi cael eu glanhau a’u hadfer gan gynnal ymchwil iddynt.
Mae’r paentiadau miniatur wedi cael eu rhannu’n bum adran: Brenhiniaeth; Pendefigaeth a’r Bonedd; Y Chwyldro Ffrengig a Chyfnod Napoleon; Celf a Diwylliant; a Miniaturau Dorothy Kirkman.
Ceir delweddau hynod ddiddorol gan amrywio o Francis 1, Brenin Ffrainc (1494-1547), portread prin o Gardinal Mazarin (1602-1661) a oedd yn sylfaenydd Academi Frenhinol Paentio a Cherflunio, a phortread godidog o swyddog llyngesol gan yr artist clodwiw, John Dillman Englehart (1783-1862), i gasgliad pwysig gan un o baentwyr miniaturau pwysicaf Prydain yn y 19eg ganrif, Syr William Newton (1785-1869), a oedd yn baentiwr miniaturau i William IV a’r Frenhines Adelaide a hefyd i’r Frenhines Victoria.
Hanesydd Celf, Dr. Barry Plummer.