Ym 1869 daeth y newyddiadurwr Prydeinig Blanchard Jerrold (1826-1884) a’r artist Ffrengig Gustave Doré (1832-1883) ynghyd i gydweithredu i greu cofnod darluniadol o fywyd ac amddifadedd yn Llundain oes Victoria.
Cyhoeddwyd London: A Pilgrimage yn gyntaf ym 1872, ynghyd â 180 o ysgythriadau Doré o’r ddinas, ac er gwaethaf amheuon cychwynnol, câi darluniau Doré eu cydnabod yn ddiweddarach fel ei waith gorau am ei ddefnydd o olau a chysgod i gyfleu awyrgylch Llundain oes Victoria.
Roedd Glynn yn berchen ar bedwar copi o’r llyfr hwn ac mae’r lluniau’n rhoi mewnwelediad i ni o ffordd o fyw y byddai Glynn wedi’i phrofi a bod yn dyst iddi.
Cynhyrchwyd y detholiad hwn o ddarluniau gan y pensaer Swistirol André Bourdelin, gydag ychwanegiadau gan Doré, ac maent yn rhan o’r gwaith rhagbaratoawl ar gyfer London: A Pilgrimage. Darluniwyd nodweddion pensaernïol y gweithiau hyn gan Bourdelin a oedd yn aml yn gadael lle i Doré osod ychwanegiadau a ffigyrau.