Mae gan gyfrinach gweithgynhyrchu porslen yn Ewrop gysylltiad agos ag Augustus Rex (1670-1733), Etholwr Sacsoni ac, yn ddiweddarach, yn Frenin Gwlad Pwyl. Wedi’i wneud yn Tsieina ers bron 1,000 o flynyddoedd eisoes, roedd porslen yn cael ei ystyried ar y pryd i fod yn fwy gwerthfawr nag aur.
Rhododd Augustus Rex her i Johann Friedrich Böttger, alcemydd Almaenig, i ddarganfod cyfrinach gwneud porslen. Llwyddodd tua 1710, pan sefydlwyd ffatri enwog Meissen yn Dresden, sy’n parhau i ffynnu hyd heddiw.
Cynhyrchwyd y fâs Meissen wen tua diwedd y 1720au ar gyfer llys Dresden, mwy na thebyg i addurno’r palas porslen enfawr yr oedd Augustus Rex yn bwriadu ei adeiladu.
Roedd ffatrïoedd ar draws Ewrop yn ceisio darganfod cyfrinach gwneud porslen, a daeth yr wybodaeth hon i Abertawe o’r diwedd ym 1813, lle roedd y diwydiant porslen yn ffynnu am gyfnod byr dan Lewis Weston Dillwyn tan 1817. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, treuliai Glynn lawer o amser yn Ffrainc a’r Almaen, lle roedd yn casglu gwaith celf o bob un o’r crochendai a’r ffatrïoedd porslen ar draws Ewrop.
Gwarchodwr Peter J. David ACR.