Mae’r eitemau wedi’u henamlo’n dod o gymynrodd wreiddiol Richard Glynn Vivian (1835-1910), ac fe’u prynwyd gan Glynn ar ei deithiau ledled y byd. Mae gan lawer labeli sy’n nodi ym mha le a phryd y cawsant eu prynu ac sy’n rhoi mewnwelediad iddo fel casglwr celf ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Mae eitemau wedi’u henamlo’n cynnwys llwch gwydr ar sylfaen fetel – copr yn yr achos hwn. Roedd y llwch gwydr naill ai’n cael ei daenellu, neu ei gymysgu â dŵr a’i osod ar arwyneb y copr â chwilsyn; trwy osod y past copr a gwydr dan wres aruthrol, byddai’r ddau’n asio i’w gilydd.
Gwarchodwr Peter J. David ACR.