Yn ystod ei fywyd, casglodd Glynn nifer o wrthrychau â chysylltiadau brenhinol ac aristocrataidd. Dangosir hyn gan nifer yr eitemau a brynwyd yn ystod gwerthiant Dug Marlborough ym 1886, penddelwau Sèvres Marie Antoinette a Louis XVI, clawr â rhif rhestr eiddo o Palais Japonais Augustus Rex a’r dysglau caead a wnaed ar gyfer Brenin Naples. Hefyd, mae pâr o bowlenni ymerodrol ac enamelau a wnaed ar gyfer yr Ymerawdwr Qianlong o Tsieina.
Roedd diwydiant hufenwaith pwysig yn ne’r Eidal ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Sefydlwyd y ffatri gynharaf gan Nicola Giustiniani a’i feibion ym 1760. Roedd yn cynhyrchu hufenwaith pob dydd o safon, yn ogystal â fasys yn y dull Etrwsgaidd. Mae gan nwyddau o’r ffatri hon arlliw melyn nodweddiadol.
Mae ffurf y dysglau cawl yn arwyddocaol, gan fod yr eryr a’r llew yn symboleiddio brenhiniaeth. Mae ffurf trichoes y dysglau cawl yn cynrychioli’r ‘trisgel’, symbol sy’n cynnwys tri choes wedi’u huno wrth y forddwyd a oedd yn symbol hynafol Trinacria (Sisilia, a enwid felly oherwydd ei siâp trionglog), a atgyfodwyd gan Joachim Murat (brawd-yng-nghyfraith i Napoleon) a enwyd yn Frenin Napoli ar 1 Awst 1808.
Ystyr yr arwyddair “VIVA IL RE, E LA, REGINA” yw “HIR OES I’R BRENIN A’R FRENHINES”.
Gwarchodwr Peter J. David ACR.