Mae’r theatr yn thema sy’n ymddangos trwy gydol bywyd a chasgliadau Glynn. Ymhlith ei eitemau ceramig mae grŵp diddorol o ffigyrau sy’n cynrychioli cymeriadau o’r ‘commedia dell’arte’. Gyda’i darddiad yn yr Eidal, mae’r ‘arte’ yn cyfeirio at eu sgiliau artistig unigol wrth iddynt ryngweithio â’u cynulleidfa mewn perfformiad byrfyfyr masweddol a dibarch ar sail sgript sylfaenol, yn aml yn ogystal â sylwadaeth amserol neu ddychanol. Byddai’r actorion yn perfformio ar risiau eglwysi neu lwyfanau trestl syml heb fawr o addurniad set neu ddim o gwbl.
Tarddodd y commedia dell’arte yn yr Eidal yn y 15fed ganrif gan ledaenu ar draws Ewrop nes iddi ddod yn rhan o theatr fwy traddodiadol erbyn diwedd y 18fed ganrif, ar ffurf y Théâtre-Italien, ac erbyn y 19eg ganrif ar ffurf Pwnsh a Jwdi.
Ymhlith y ffigyrau a gynrychiolir yn y grŵp hwn mae ffigwr Meissen o Harlecwin fel bagbibydd mewn cyflyrau addurniedig a diaddurn, a thri ffigwr o ffatri Kloster Veilsdorf, sef Pantalone, Corviello a Mezzetin, a fodelwyd gan Wenzel Neu rhwng 1764 a 1765. Cawsant eu hysbrydoli gan ysgythriadau Probost, a gyhoeddwyd yn Augsburg ym 1729.
Yr eitem fwyaf nodedig yw corrach commedia dell’arte prin nad oedd wedi cael ei gofnodi o’r blaen, sydd fwy na thebyg yn portreadu Pantalone o Ffatri Fienna Du Paquier.
Gwarchodwr Peter J. David ACR.