Mae’r grŵp o bonbonnières sy’n cael eu harddangos yn cynnwys modelau o adar, cŵn, defaid, drymiau ac afalau, ond gellir defnyddio’r term i gyfeirio at unrhyw flwch y bwriedid iddo gael ei gludo gan y person, ac maent yn rhan o grŵp a adwaenir fel ‘bibelots’ sy’n cynnwys blychau snisin a mannau harddwch, ac étuis – casys ar gyfer ymbincio, y mae pob un ohonynt yn cael ei arddangos.
‘Enamlo’ yw’r broses o orchuddio is-haen copr â llwch gwydr lliw, wedi’i gosod ar fflwcs, ac wedyn tanio’r cyfan i dymheredd uchel iawn, yn gyflym am gyfnod byr; mae’r gwydr yn asio i’r copr, gan greu arwyneb gwydn. Roedd y llwch gwydr yn cael ei osod trwy ridyll main, neu ei falu’n bast mewn dŵr a’i osod gan ddefnyddio gwilsyn gŵydd neu frwsh. Y prif ganolfannau ar gyfer cynhyrchu enamel ym Mhrydain oedd Battersea, de Swydd Stafford, Bilston, Birmingham a Wednesbury. Mae’n debyg bod y rhai sy’n cael eu harddangos yma’n dod o Bilston.
Gwarchodwr Peter J. David ACR.