Ychydig iawn sy’n hysbys am Agatha van der Mÿn [Mijn]. Aelod o deulu mawr o baentwyr Iseldiraidd o Amsterdam oedd hi, yn chwaer i Herman van der Mijn (1684-1741), ac yn baentiwr portreadau, bywyd llonydd a ffigyrau noeth mytholegol. Tua 1722 symudodd i Lundain gyda’i brawd a’i deulu ef. Dywedir ei bod hi’n paentio lluniau bywyd llonydd o flodau yn Amsterdam cyn ei phen-blwydd yn ddeunaw oed a phriodolir rhai lluniau bywyd llonydd o helwriaeth iddi.
Islaw rhosyn gwyn eiddil a blodau troed y golomen glas, mae bwnsiad realistig o rawnwin gwyrdd a dwy eirinen wlanog yn gorwedd ar silff garreg. Mae cleren fawr, ddu yn glanio ar yr eirinen wlanog ganolog: mae’r twyll ffraeth hwn yn arddangos yn glir fedrusrwydd y paentiwr bywyd llonydd, ond ar yr un pryd mae’n pwysleisio byrhoedledd blodau a ffrwythau a fydd, cyn pen dim, yn pydru ac yn marw. Wedi’i baentio ar gerdyn rhad yn hytrach na’r pren neu’r cynfas arferol, gallai’r braslun bychan hwn fod wedi’i wneud i baratoi ar gyfer paentiad mwy o faint neu i fod yn sampl stiwdio i fyfrywyr ei gopïo. Ar un adeg roedd yn perthyn i gasglwr o’r Almaen ac mae’n bosib y daethpwyd ag ef yma gan Richard Glynn Vivian.
Hanesydd Celf, Kirstine Brander Dunthorne.