Olew ar gynfas
Sefydlodd Richard Glynn Vivian (1835 – 1910) yr Oriel gydag elw o’r diwydiant copr.
Roedd Vivian & Sons (1809-1924) yn rhedeg y gwaith copr yn yr Hafod, Abertawe, gan fewnfudo copr o El Cobre, cloddfa yng Nghiwba y gwyddys ei fod yn defnyddio caethweision a gweithwyr ymrwymedig.
Yn ogystal, roedd copr ei hun yn cael ei ddefnyddio fel arian parod neu ar gyfer addurniadau, a oedd yn hwyluso’r drefn o brynu a gwerthu caethweision Affricanaidd.
Er nad oes unrhyw dystiolaeth fod y teulu Vivian eu hunain yn rhan uniongyrchol o’r fasnach gaethweision, roedd hanes copr yn rhan o dirwedd cymdeithasol-wleidyddol camfanteisio trefedigol. Mae’r Oriel wrthi’n archwilio’r gorffennol ymerodrol hwn.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911