Engrafwyd gan Charles Howard Hodges ym 1792 ar ôl y portread gwreiddiol gan John Rising sydd i’w weld yn Nhŷ Wilberforce, Hull.
Roedd William Wilberforce (1759-1833), a aned yn Hull, yn fab i fasnachwr cyfoethog.
Cafodd y diddymwr Thomas Clarkson ddylanwad mawr arno. Am 18 mlynedd, cyflwynodd Wilberforce gynigion gwrth-gaethwasiaeth yn y Senedd. Ym 1807, diddymwyd y fasnach gaethwasiaeth.
Roedd gweithgareddau Wilberforce yn adlewyrchu mudiad y diddymwyr yn Abertawe: ymwelodd Clarkson ag Abertawe ym mis Gorffennaf 1824 a sefydlodd Cymdeithas Gwrth-gaethwasiaeth yn Abertawe a Chastell-nedd. Roedd yn cynnwys y Crynwr Joseph Tregelles Price, Syr John Morris, Lewis Weston Dillwyn a’r teulu Portreeve. Trefnodd Price ddeisebau i’w hanfon i’r Senedd rhwng 1823 ac 1833.
Ym 1833, pasiwyd deddf a oedd yn rhoi rhyddid i bob caethwas yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911