Henry De la Beche KCB, FRS (1796-1855) oedd cyfarwyddwr cyntaf Arolwg Daearegol Prydain Fawr.
Ym 1837, gan ddeall pwysigrwydd ymchwil daearegol ar gyfer datblygu maes glo de Cymru, symudodd yr arolwg o Lundain i Abertawe. Erbyn 1844 roedd wedi cwblhau map manwl o Dde Cymru.
Yn Abertawe, ymunodd â Sefydliad Brenhinol De Cymru, sef rhwydwaith o wyddonwyr a pheirianwyr blaengar, yr oedd ei Arlywydd cyntaf, y naturiaethwr Lewis Weston Dillwyn (perchennog Crochendy Cambrian) yn ffrind agos iddo. Priododd ei ferch, Bessie, â mab Dillwyn, Lewis Llewelyn Dillwyn.
Er bod y teulu Dillwyn yn ddiddymwyr brwd, nid oedd De la Beche yn rhannu’r un farn: ym 1801, etifeddodd blanhigfeydd ei dad yn Jamaica a oedd yn cael eu rhedeg gan gaethweision, ac roedd yn dadlau y dylai caethwasiaeth barhau.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911