Acrylig ar bapur
Cydnabuwyd Peter Prendergast (1946-2007) yn eang fel un o artistiaid tirluniau mwyaf blaenllaw Prydain. Fe’i ganed yn Abertridwr, Morgannwg, a’i fagu ger Caerffili, lle’r oedd ei dad yn gweithio fel glöwr.
Mae ei ddelweddau lled haniaethol yn adlewyrchu gwirioneddau caled tirwedd ddiwydiannol Cymru. Yn dilyn ei astudiaethau yng Ngholeg Celf Caerdydd ac Ysgol Gelf Slade, Llundain, symudodd i Bethesda yng Ngwynedd.
Mae chwareli llechfaen Bethesda, â’u clegyrau llwyd-ddu, yn ymddangos yn rhai o baentiadau enwocaf Prendergast. Roedd symbolau diwydiant, sef chwareli llechfaen Penrhyn a phentref Bethesda, wedi’u sefydlu yn y 18fed ganrif gan Richard Pennant, yr oedd ei asedau’n cynnwys planhigfa gaethweision yn Jamaica.
Casgliad Oriel Gelf Glynn Vivian
