Cynhyrchwyd porslen go iawn Ewropeaidd am y tro cyntaf yn ffatri frenhinol Meissen, ger Dresden, ym 1710. Roedd sylfaenydd yr Oriel yn gasglwr porslen Meissen brwd, ac mae’r modelau bach cynnar hyn o bobl dduon yn rhan o’i gasgliad amrywiol.
Roedd porslen Meissen, y cyfeiriwyd ato fel ‘aur gwyn’, yn nwydd gwerthfawr, ac yn anochel yn llawn rhagfarnau Ewropeaidd am hil.
Os roedd dyluniadau Meissen y deunawfed ganrif yn addasu motifau dwyrain Asia, roeddent hefyd yn portreadu’r ‘bobl dduon egsotig’ yn eu harddwisgoedd rococo euraid.
Mae haneswyr celf (fel Adrienne L. Childs) yn dadlau bod portreadau Ewropeaidd o bobl dduon (y ‘Blackamoor’) yn gyfuniad o Affricaniaid du, Mwslimiaid ac Arabiaid (h.y, y ‘Mwriaid’), gan guddio erchyllter y fasnach gaethwasiaeth Saharaidd-Arabaidd drwy rwysg dwyreinydd.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911