Olew ar gynfas
Mae paentiad James Harris yn darlunio darn prysur o afon Tawe yn ystod y chwyldro diwydiannol, pan adwaenid Abertawe fel “Copperopolis”.
Yn y cefndir, dan orchudd o fwg trwchus, mae Gwaith Copr yr Hafod – a sefydlwyd ym 1809 gan y meistr copr o Gernyw, John Vivian – a ffowndri’r Garreg Wen. Yr olaf oedd y trydydd hynaf o waith copr Abertawe, a sefydlwyd ym 1737 gan Robert Hoblyn ac a redwyd i ddechrau gan fasnachwr o Fryste, Thomas Coster, nes i’r teulu Vivian ei gaffael ym 1874.
Roedd copr yn gysylltiedig â chaethwasiaeth gan ei fod yn aml yn cael ei gyfnewid am gaethweision Affricanaidd. Ond, roedd gan gyfoeth Coster gysylltiad mwy uniongyrchol: roedd yn gydberchennog chwe llong ar gyfer caethweision.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911