Cerflun gardd a ddyluniwyd yn Ffowndri Gelf Val d’Osne yw ‘Merch Niwbiaidd’. Sefydlwyd y ffowndri ym 1835 gan Jean Pierre Victor André, dyfeisiwr enwog y cerflun haearn bwrw.
Mae’r ffigwr yn gwisgo lliain lwynau pletiog gydag amrywiad ar benwisg y nemes (pharo) o’r Hen Aifft. Mae ei chorff noeth sydd wedi’i addurno ag aur yn nodweddiadol o ffantasïau dwyreinyddion am ‘yr Aifft ecsotig’ a oedd yn gyffredin yn Ffrainc yn ystod yr Ail Ymerodraeth (1852-1870).
Ceisiodd Napoleon III efelychu ei ewythr, Napoleon Bonaparte; gan ehangu presenoldeb ymerodrol Ffrainc i Ogledd Affrica ar yr adeg hon.
Yn y cyfamser, triniwyd ‘Belle Époque’ yr Aifft fel lle chwarae dirywiedig gan aristocratiaid Ffrainc, yr oedd yr Ymerodres Eugénie ei hun yn hoff ohono.
Cymynrodd Richard Glynn Vivian, 1911