Fideo
Mae gwaith Cinzia Mutigli, sy’n dod o Gaerdydd, yn cynnwys testun, perfformiad a fideo; sy’n cysylltu ei llinach hybrid ei hun â hanesion diwylliannol ehangach.
Mae craidd hunangofiannol cryf i’r gosodiad amlgyfrwng, Sweet Wall, 2020.
Meddai, “Rwy’n ystyried sut mae agweddau domestig, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol poblogaidd ein hamgylchedd yn effeithio ar ein persona…ein hymdeimlad o le yn y byd.”
Mae hanes treisgar siwgr – yr oedd hi’n gaeth iddo – yn thema ailadroddus sy’n cael ei harchwilio yn y ffilm, sy’n myfyrio ar berthynas y sylwedd â’r fasnach gaethweision trawsatlantig.
Roedd llawer o ddiwydianwyr Abertawe yn ddyledus i’r fasnach hon, er nid mewn ffordd uniongyrchol, yn ogystal â phlanhigfeydd siwgr a oedd yn cael eu rhedeg gan gaethweision yn y Caribî.
Gwobr Wakelin 2021 Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian