Acrylic, wool, human hair, kanekalon hair on hessian
Mae rygiau bywgraffiadol yr artist Cymreig-Ghanaidd, Anya Paintsil, yn gwehyddu ei threftadaeth gymysg ynghyd gan eu bod yn cynnwys gwlân, gwallt kanekalon a gwallt dynol (gwallt yr artist ei hun yn aml). Mae creu rygiau gan ddefnyddio bachyn yn dechneg yr oedd wedi’i dysgu gan ei mam-gu Gymreig ar ochr ei mam, ac mae ei gwaith yn aml yn cynnwys teitlau Cymraeg. Ac eto, mae eu hedefynnau a’u tresi rhyng-weuedig a’u gwead Affro hefyd yn cyfleu steiliau gwallt addurniadol Gorllewin Affrica. Felly, mae rygiau Paintsil yn crybwyll yn gynnil ei phrofiadau o dyfu i fyny fel merch ddu (a oedd yn siarad Cymraeg) yng ngogledd Cymru wledig.
Mae Paintsil, sy’n ymwybodol iawn o waith tecstilau artistiaid benywaidd (e.e. Dinner Party, 1974-1979 gan Judy Chicago o America), yn tanseilio’n fwriadol yr ystrydebau sy’n gysylltiedig â phobl ddu a gwyn, hil, hunaniaeth – a pherthyn.
Gwobr Wakelin 2020 Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian