Roedd sylfaenydd yr Oriel, Richard Glynn Vivian, yn dwlu ar deithio’r byd. Aeth i Ogledd Affrica ym 1873 ac yn yr Oriel gellir gweld ei albwm teithio ar gyfer y daith honno, sy’n cynnwys brasluniau a ffotograffau o Moroco, Algeria a Tunisia. Ym mis Mawrth 1878, ymwelodd Glynn Vivian â De Affrica, ac mae llyfr nodiadau ei fam o’r flwyddyn ganlynol yn nodi ei fod yng ngwlad y Zwlw yn ystod cyflafan Brwydr Isandlwana ym 1879 pan laddwyd milwyr Prydeinig a threfedigol.
Mae llythyr a ysgrifennwyd ym 1890, mae Glynn Vivian yn cofnodi: “I rode alone 60 miles up into Zululand during the war. I crossed Madagascar 35 days, 15 days quite alone…and sleeping in the open on the banks of a river surrounded by crocodiles”.
Richard Glynn Vivian Bequest, 1911