Mae tîm cadwraeth profiadol Oriel Gelf Glynn Vivian yn gofalu am gasgliadau’r oriel, yn sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ein 2 stiwdio bwrpasol o’r radd flaenaf, mae’n gweithwyr cadwraeth yn cynnal gwiriadau rheolaidd ar gyflwr y gwaith celf, yn ailosod a fframio gwaith celf, yn monitro’r golau, y tymheredd a’r lleithder yn ardaloedd amrywiol yr oriel, wrth gadw ac adfer gwaith celf, sydd yn gallu cymryd nifer o fisoedd neu flynyddoedd i’w cwblhau.
Ewch du ôl i’r llenni ac ymwelwch â’r stiwdio gadwraeth yn Crefft Cadwraeth, a dysgwch sut mae’r casgliad yn cael ei drin a’i gadw, a sut gofelir amdano.